Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cylchlythyr y Pwyllgorau a Deddfwriaeth

Ionawr 2017

Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith pwyllgorau’r Cynulliad a hynt Biliau sy’n cael eu hystyried gan y Cynulliad ar hyn o bryd.

Byddem yn ddiolchgar o gael eich adborth

Cynnwys

Deddfwriaeth. 1

01.Deddfwriaeth: y stori hyd yma. 1

Y diweddaraf gan bwyllgorau’r Cynulliad. 2

02. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 2

03. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. 2

04. Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog. 2

05. Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol 3

06. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. 3

07. Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. 4

08. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. 4

09. Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol 5

10. Y Pwyllgor Cyllid. 5

11. Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. 6

12. Y Pwyllgor Deisebau. 7

13. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. 7

14. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. 8

 


Deddfwriaeth

 


01.Deddfwriaeth: y stori hyd yma

Ers haf 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig pum cyfraith i’w hystyried gan y Cynulliad, sef:

- Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a gyflwynwyd ar 12 Medi 2016.

- Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a gyflwynwyd ar 7 Tachwedd 2016.

- Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) a gyflwynwyd ar 28 Tachwedd 2016.

- Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gyflwynwyd ar 12 Rhagfyr 2016; a

- Y Bil Undebau Llafur (Cymru) a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2017

Mae’r Dreth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) ar hyn o bryd yng nghyfnod 2, pan fydd aelodau pwyllgor yn pleidleisio ar welliannau i’r Bil.

Mae’r pedwar Bil arall yng ‘nghyfnod 1,’ lle y bydd aelodau’r pwyllgor yn casglu barn y cyhoedd ar egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth, ac yn adrodd yn eu cylch.

Ni chyflwynwyd yr un Bil Aelod, Bil Pwyllgor na Bil Comisiwn y Cynulliad hyd yma yn y Pumed Cynulliad.

Balot Bil Aelod cyntaf

Roedd Dai Lloyd AC yn llwyddiannus yn y balot Bil Aelod cyntaf a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2017. Ei gynnig yw Datblygu’r Bil Diogelu Enwau Hanesyddol yng Nghymru.

Gall pob Aelod o’r Cynulliad roi un syniad mewn pleidlais Bil Aelod.  Gall eu syniad fod ar unrhyw beth y mae gan y Cynulliad y pŵer cyfreithiol i’w newid, ac eithrio ar drethiant.  Yna bydd un syniad Aelod yn cael ei ddewis, ar hap, gan y Balot.

Os oes gennych chi syniad ar gyfer newid y byddech yn hoffi ei wneud i’r gyfraith yng Nghymru, gallwch siarad â’ch Aelodau Cynulliad.

Oeddech chi’n gwybod bod pob person yng Nghymru yn cael ei gynrychioli gan bump Aelod Cynulliad?  I gael gwybod pwy yw eich Aelod Cynulliad, ewch i.



 

Y diweddaraf gan bwyllgorau’r Cynulliad

 


02. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddPPIA

Y tymor hwn mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon.  Bydd sesiynau tystiolaeth lafar ffurfiol yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y tymor.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi lansio ymgynghoriad sy’n dwyn y teitl ‘Y 1000 diwrnod cyntaf’ – i ystyried i ba raddau y mae polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cefnogi rôl rhieni yn y blynyddoedd cynnar, yn y cyfnod cyn geni ac yn ystod dwy flynedd gyntaf bywyd plentyn ac, yn hollbwysig, pa mor effeithiol ydynt ar gyfer cefnogi galluoedd a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant.  Y bwriad yw y bydd y dystiolaeth a geir yn cyfrannu at ymchwiliadau’r Pwyllgor yn y dyfodol.

Mae’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor.  Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad ac arolwg.  Dechreuodd y gwaith craffu yng Nghyfnod 1 ar 12 Ionawr pan ddaeth Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i’r cyfarfod Pwyllgor i roi tystiolaeth.  Cynlluniwyd rhagor o sesiynau tystiolaeth lafar ar gyfer mis Mawrth.  Fel rhan o ymgysylltiad y Pwyllgor â’r cyhoedd, cynhelir cynhadledd ar 26 Ionawr, pan fydd dros 80 o bobl yn bresennol, ac ar 9 Chwefror bydd y Pwyllgor yn cynnal gweithdai yng Ngogledd a De Cymru gyda rhieni a gofalwyr ac yn cwrdd â phobl ifanc.

Ar 18 Ionawr daeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer sesiwn graffu gyffredinol.  Ar 25 mis Ionawr bydd y Cadeirydd yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar waith y Pwyllgor hyd yma yn y Pumed Cynulliad, ac ar ei ymchwiliadau a’i waith ymgysylltu yn y dyfodol.

Ar 1 Chwefror bydd cynrychiolydd o’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn dod i’r Pwyllgor i drafod eu hadroddiad ar Gyflwr iechyd Plant, a gaiff ei gyhoeddi ar 26 Ionawr. Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn dod i un o’r cyfarfodydd i drafod ei Adroddiad Blynyddol, a hwn fydd y tro cyntaf i’r Pwyllgor graffu ar yr adroddiad hwn.  Ar 15 Chwefror, bydd Estyn yn bresennol i drafod ei adroddiad blynyddol.

Y tymor hwn hefyd, bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dau adroddiad - Darpariaeth Eiriolaeth Statudol a Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig.

03. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddNHAMG

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn edrych ymlaen at barhau â’i waith ar ddyfodol y polisi amaethyddol a’r polisi gwledig yng Nghymru.  Rydym wedi clywed gan randdeiliaid am ffyrdd i ysgogi datblygu gwledig yn y dyfodol, ac rydym yn edrych yn fanwl ar y materion hyn drwy ymweld ag Iwerddon i weld y Rhaglen Burren.  Bydd ein hymweliad â Galway yn rhoi cyfle i ni ddysgu am gynllun arloesol sy’n cefnogi busnesau amaethyddol i gynnal bioamrywiaeth. 

Ar yr un ymweliad, bydd y Pwyllgor yn cwrdd â’r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Môr yn Iwerddon, yn Nulyn, ac yn dysgu oddi wrth y Prif Swyddog Milfeddygol am eu dull o fynd i’r afael â thwbercwlosis mewn gwartheg.

Rydym wedi dechrau ar ymchwiliad i reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, a byddwn yn clywed gan arbenigwyr blaenllaw ar y materion y mae angen eu cydbwyso wrth gynnal y meysydd hyn.  Byddwn yn datblygu’r gwaith hwn gydag ymweliad ag Aberdaugleddau i gwrdd â rhai sy’n gweithio ar y cynllun Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro.

Byddwn yn cynnal cyfarfod cyntaf y Grŵp Cyfeirio Arbenigol ar Newid yn yr Hinsawdd ym mis Chwefror. Bydd y grŵp hwn yn rhoi cymorth i’r Pwyllgor graffu ar y cynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru o ran cyrraedd ei thargedau ar liniaru newid yn yr hinsawdd.  Mae hyn yn cynnwys craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

04. Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

Cyfarfu’r Pwyllgor, sydd newydd ei sefydlu, yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar 18 Tachwedd y llynedd a ffocws eu sesiwn graffu oedd y Rhaglen Lywodraethu.  Roedd amser hefyd wedi’i neilltuo ar ddiwedd y cyfarfod i Aelodau ofyn nifer o gwestiynau i’r Prif Weinidog ar faterion cyfoes.

Ar ôl cytuno yn flaenorol i gynnal dau o’u tri chyfarfod bob blwyddyn y tu allan i Gaerdydd, mae’r Pwyllgor i gyfarfod nesaf ddydd Gwener 17 Chwefror yng Nghanolfan Halliwell, Caerfyrddin.  Bydd yr Aelodau yn gofyn i’r Prif Weinidog am ddull gweithredu strategol Llywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â thlodi. Unwaith eto bydd cyfle i ofyn cwestiynau amserol ar ddiwedd y cyfarfod.

 

 

 

05. Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddMCD

Y tymor hwn, bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ei ymchwiliad i ‘Lais Cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a sefydliadau datganoledig’ a fydd yn ystyried effeithiolrwydd gweithio rhyng-sefydliadol.  Bydd hyn yn datblygu’r gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud mewn deddfwrfeydd eraill a’r trafodaethau cychwynnol, anffurfiol ag academyddion a Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, ac yn eu hadlewyrchu.

Lansiodd y Pwyllgor ei ymgynghoriad ym mis Rhagfyr a bydd yn clywed tystiolaeth lafar yn ystod y tymor sydd i ddod.  Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 17 Chwefror 2017.  Bydd y Pwyllgor yn sefydlu panel dinasyddion i gyfrannu at ei waith.  Bydd y dull gweithredu hwn yn helpu i sicrhau y bydd y Pwyllgor yn clywed cydbwysedd o safbwyntiau, rhwng y rhai nad ydynt erioed wedi ymgysylltu a’r rhai sy’n ymwneud yn rheolaidd â’r Cynulliad.  Wrth osod y cylch gorchwyl, nododd y Pwyllgor hefyd ei amcanion ar gyfer yr ymchwiliad, sy’n cynnwys nodi egwyddorion arfer gorau ar gyfer gweithio rhyng-sefydliadol.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn paratoi i wneud rhagor o waith yn sgîl argymhelliad ein Pwyllgor ragflaenydd i sicrhau dull cyson ar gyfer penodi comisiynwyr, a’u hatebolrwydd.  Cyfarfu’r Pwyllgor ag arbenigwyr yn y maes yn ystod tymor yr hydref i ofyn eu barn, er mwyn cynorthwyo i lunio gwaith y Pwyllgor. Cyhoeddir rhagor o fanylion maes o law!

Hefyd, bydd y Pwyllgor yn:

- craffu ar yr holl Filiau a gyflwynir i’r Cynulliad;

- craffu ar yr holl is-ddeddfwriaeth sy’n cael ei gosod gerbron y Cynulliad;

- monitro effaith Bil Cymru Llywodraeth y DU; ac

- monitro unrhyw ddatblygiadau cyfansoddiadol a fydd yn effeithio ar Gymru.

06. Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddDGCh

Dechreuodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ddau ymchwiliad y tymor diwethaf, un i Strategaeth y Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru, a fydd yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni ei nod datganedig o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a’r llall i gael golwg ragarweiniol ar ddarlledu yng Nghymru.  Y tymor hwn byddwn yn parhau â’r ymchwiliadau hyn ac yn eu cwblhau.  Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r ddau adroddiad arnynt cyn diwedd y tymor.

Yn ogystal, cynhaliwyd arolwg barn gyhoeddus i benderfynu beth fyddai ei ymchwiliad nesaf.  Mae’r Pwyllgor, o ganlyniad i’r arolwg, wedi dechrau ar ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati, sef cais buddugol y bleidlais.  Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar y cylch gorchwyl ac yn cynnal rhai sesiynau tystiolaeth ragarweiniol.  Bydd yr ymgynghoriad cychwynnol yn cau ar 3 Chwefror; yna bydd yr ymchwiliad ei hun yn dechrau, a bydd yn parhau drwy gydol y tymor.

Yn olaf, mae’r Pwyllgor yn ddiweddar wedi cynnal un sesiwn ar ‘Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017’. Bwriadwn osod ein hadroddiad ar y rheoliadau mewn pryd ar gyfer y drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar 31 Ionawr.

07. Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddESS

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn edrych ar y seilwaith digidol (band eang a’r seilwaith ffonau symudol) yn ystod mis Ionawr, a bydd yn cynnal ymchwiliad byr i ariannu’r ardoll prentisiaethau ym mis Chwefror.  Byddwn hefyd yn cynnal rhai sesiynau seminar i edrych ar wahanol safbwyntiau o ran strategaeth economaidd newydd i Gymru.

Drwy gydol mis Mawrth byddwn yn dechrau clywed tystiolaeth lafar ar y fasnachfraint metro a rheilffyrdd - ein darn mawr o waith ar gyfer y tymor hwn.

Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad ar y cynigion o ran Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru yn ddiweddarach y mis hwn (Ionawr).

08. Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddCLlLCh

Mae gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau raglen waith amrywiol yn ystod tymor y gwanwyn.  Mae llawer o’r gwaith yn cael ei lywio gan yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid yn ystod haf 2016 ar flaenoriaethau’r Pwyllgor.

Bydd y Pwyllgor yn:

-  Cynnal gwaith craffu ar Fil Undebau Llafur (Cymru) yng Nghyfnod 1.  Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad cyn y Pasg.

-  Dechrau gwaith yn edrych ar dlodi yng Nghymru, ac yn cynnal digwyddiad i randdeiliaid ddiwedd mis Ionawr.  Yn dilyn hyn, bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, cyn penderfynu ar y camau nesaf.  Bydd hyn yn datblygu gwaith y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad;

- Yn clywed tystiolaeth lafar ar gyfer yr ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar hawliau dynol yng Nghymru; a chynnig Llywodraeth y DU i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998 a chyflwyno Deddf Hawliau Prydeinig i gymryd ei lle.  Bydd hefyd yn ystyried canfyddiadau’r cyhoedd o ran hawliau dynol, a pha mor ddealladwy a pherthnasol ydynt i bobl Cymru. Bydd ymgynghoriad ysgrifenedig yn cau ar 10 Chwefror;

- Cynnal sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru ar 2 Chwefror;

- Cyhoeddi ei adroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru; ac

- Yn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ymchwiliad y Pwyllgor ar ôl y broses ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

09. Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddMADY

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar oblygiadau Brexit i Gymru.  Wedi’i rannu yn ddwy ran, mae rhan gyntaf yr adroddiad yn edrych ar y materion sy’n dod i’r amlwg ar gyfer meysydd fel masnach, addysg, iechyd a’r amgylchedd.  Mae’r ail ran yn rhoi ein barn ar sut y byddwn yn ymdrin â gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth i broses drafodaethau erthygl 50 ddatblygu.

Gan edrych i’r dyfodol, byddwn yn cynnal sesiynau craffu rheolaidd gyda’r Prif Weinidog, arweinydd Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau - Mark Drakeford AC, a chyda Gweinidogion perthnasol eraill i fonitro cynnydd ac i’w dwyn i gyfrif. Bydd y cerrig milltir allweddol yn cynnwys craffu ar ‘Fil Diddymu’ arfaethedig Llywodraeth y DU ac ysgogi Erthygl 50.  Byddwn yn parhau i siarad â chyrff seneddol eraill ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cynnal cyfarfodydd gyda chymheiriaid yn y Fforwm EC-UK ym mis Mawrth.

Gan ddatblygu ein gwaith ar oblygiadau Brexit, byddwn hefyd yn cynnal ymchwiliad i ddyfodol polisi rhanbarthol yng Nghymru drwy gydol tymor y gwanwyn.

10. Y Pwyllgor Cyllid

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddCyllid

Dechreuodd tymor prysur y gwanwyn gyda’r Pwyllgor yn craffu ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru), sydd â 10 Mawrth yn ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno yng Nghyfnod 1. Bwriedir clywed  tystiolaeth gan amrywiaeth o gyrff a bydd y Pwyllgor yn cynnal ymweliad â Safle Tirlenwi.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru): Cyfnod 1 ym mis Rhagfyr 2016.  Cynhaliwyd y ddadl Cyfnod 1 ar 10 Ionawr, a chymeradwywyd yr egwyddorion cyffredinol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Dechreuodd trafodion Cyfnod 2 ar 11 Ionawr, a’r dyddiad a drefnwyd ar gyfer pleidleisio ar y gwelliannau yng Nghyfnod 2 yw 16 Chwefror.

Bydd y Llywodraeth yn gosod Ail Gyllideb Atodol 2016-17 Llywodraeth Cymru ar 7 Chwefror, er mwyn i’r Pwyllgor graffu a chyflwyno adroddiad arni cyn y ddadl ar 7 Mawrth.

Yn ogystal, bydd y Pwyllgor yn dechrau craffu ar oblygiadau ariannol y Biliau eraill a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad, fel y Bil Iechyd y Cyhoedd a’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi gwahodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i fynychu’r Pwyllgor ynghylch gweithrediad Deddf Cymru 2014.

11. Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddIechyd

Bydd y Pwyllgor yn parhau i glywed tystiolaeth ar y Bil Iechyd y Iechyd (Cymru) er mwyn cwblhau ei waith craffu ac adrodd ar egwyddorion cyffredinol y Bil (Cam 1) erbyn 10 Chwefror 2017.  Yn ddiweddarach yn y tymor bydd y Pwyllgor yn cynnal trafodion Cyfnod 2, pan fydd yn rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw welliannau a gyflwynir i’r Bil.

Yn ystod y tymor hwn bydd y Pwyllgor hefyd yn craffu ar bolisi Llywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd o fewn ei gylch gwaith.  Ym mis Ionawr, gyda’r cyntaf o’r darnau hyn o waith, bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol ar Gynllun Gweithredu Strategol Drafft ar Ddementia yng Nghymru Llywodraeth Cymru. 

Fel rhan o’i raglen barhaus o waith ar gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, ym mis Chwefror, bydd y Pwyllgor yn dechrau clywed tystiolaeth lafar ar gyfer ei ymchwiliad byr i Recriwtio Meddygol.  Mae’r Pwyllgor eisoes wedi cael 23 o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad fel rhan o’r ymchwiliad hwn.

Mae cyfle o hyd i gyflwyno eich barn i’r Pwyllgor o ran ei Ymchwiliad i Ofal Sylfaenol.  Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio ar rôl clystyrau (sef, grwpiau o feddygon teulu sy’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal i gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol) fel ffordd o drawsnewid gofal sylfaenol.  Gellir cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad tan 3 Chwefror 2017.

Bydd y Pwyllgor hefyd yn lansio ymgynghoriad o ran ei ymchwiliad i raddfa ac effaith unigrwydd ac unigedd pobl yng Nghymru, yn enwedig pobl hŷn.  Bydd yr ymchwiliad yn ystyried atebion polisi presennol yng Nghymru, a pha mor gost-effeithiol ydynt.  Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried i ba raddau y gallai mentrau i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn ar gyfer pobl hŷn.

Yn ddiweddarach yn y tymor, bydd y Pwyllgor hefyd yn lansio ymgynghoriad ar gyfer ei ymchwiliad i’r defnydd o feddyginiaeth gwrth-seicotig.  Bydd y Pwyllgor yn galw am dystiolaeth ar faterion sy’n codi o bryderon gan randdeiliaid ynghylch y defnydd amhriodol o gyffuriau gwrth-seicotig i reoli symptomau ymddygiadol a seicolegol.

12. Y Pwyllgor Deisebau

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddDeisebau

Disgwylir i’r Pwyllgor ystyried 16 o ddeisebau newydd dros y tymor hwn, yn ddarostyngedig i unrhyw ddeisebau derbyniadwy newydd sy’n dod o fewn yr amserlen.  Bydd yr Aelodau yn parhau i ystyried y wybodaeth ddiweddaraf o ran y deisebau sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Mae’r Pwyllgor yn y broses o gyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar Gefnogi Sgrinio blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (prawf gwaed CA125).  Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru. 

Bydd y Pwyllgor yn parhau i ystyried ei adroddiad ar yr adolygiad o’r broses ddeisebau.  Yn amodol ar gytundeb y Pwyllgor Busnes, gall hyn gynnwys rhai newidiadau i’r broses ddeisebau yn y dyfodol.

Mae’r Aelodau hefyd yn cyfarfod â deisebwyr, e.e. Whizz-Kidz, er mwyn casglu rhagor o dystiolaeth ar gyfer y ddeiseb ar Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt (P-05-710).

Mae gan y Pwyllgor gyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer 17 Ionawr; 31, Ionawr; 14 Chwefror; 7 Mawrth; 21 Mawrth a 4 Ebrill.

 

 

13. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

*     Tudalen y Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

*    Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddArchwilio

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ei waith Craffu Blynyddol ar Gyfrifon sefydliadau a ariennir gan y cyhoedd ym mis Rhagfyr 2016.  Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod Cyfrifon ac Adroddiadau Blynyddol yn dod yn fwy tryloyw a hygyrch.

Yn ystod tymor y gwanwyn, bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i Drefn Reoleiddio Cymdeithasau Tai.  Cynhaliwyd digwyddiad rhanddeiliaid llwyddiannus gyda thenantiaid Cymdeithasau Tai fis Rhagfyr diwethaf, i lywio’r ymchwiliad, a oedd yn cynnwys dros 50 o gyfranogwyr o bob cwr o Gymru.

Yn ddiweddarach yn y tymor bydd y Pwyllgor yn dechrau ymchwiliad i Gonsortia Addysg Rhanbarthol, pan fydd yn cyhoeddi ymgynghoriad ysgrifenedig yn ogystal â defnyddio arolwg ar-lein i glywed barn rhanddeiliaid.  Bydd ymchwiliad byr yn cael ei gynnal hefyd, yn deillio o adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Gynhyrchu Incwm a Codi Tâl gan awdurdodau lleol.

Bydd gwaith monitro perfformiad yn canolbwyntio ar yr ymatebion gan Lywodraeth Cymru a diweddariadau ar waith blaenorol y Pwyllgor, gan gynnwys amseroedd aros y GIG ar gyfer gofal dewisol a Gwasanaethau Orthopedig. 

Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried nifer o adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan gynnwys adroddiadau ar Reoli Meddyginiaethau a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

14. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

*     Tudalen Pwyllgor ar y we

*     E-bost y Pwyllgor

Cytunodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gynnal ymchwiliad i lobïo, a chyhoeddodd ymgynghoriad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2016.  Daw’r ymgynghoriad hwn i ben ar ddiwedd mis Ionawr 2017.

Daeth cyfnod Mr Gerard Elias fel Comisiynydd Safonau i ben ar 30 Tachwedd 2016, a chynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ymadawol gydag ef, i ystyried yr hyn roedd yn teimlo oedd y prif gyflawniadau yn ystod ei gyfnod yn y swydd, a beth fyddai’r heriau yn y dyfodol ar gyfer y Comisiynydd newydd. Dechreuodd Syr Roderick Evans yn ei swydd fel y Comisiynydd Safonau newydd ar 1 Rhagfyr, a bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn gydag ef yn gynnar yn 2017 i drafod beth fydd ei flaenoriaethau ar gyfer y rôl.